We're expanding! Rydym yn ehangu!


(Scroll down for English)

Rydym wedi goroesi blwyddyn gyntaf o fod mewn busnes!  Yn well fyth, rydym yn barod i ehangu!  Rydym wedi cael uned yn stad ddiwydiannol Penrhos, Caergybi er mwyn symud y bragu yno.  Efallai byddwch yn gwybod ein bod yn rhedeg allan o gwrw er gwaetha cyfyngiadau Cofid 19 gan fod ein cit presennol yn rhy fach. Bydd symud i’r uned yn ein galluogi i brynu cit 10 casgen i’n helpu ni gyrraedd y gofyn.

Sut medrwch chi ein helpu? Mae gennym ni’r arian i dalu am y newidiadau i’r adeilad: addasu’r llawr, plymio a’r trydan; gennym ni arian hefyd i dalu am y cit 10 casgen. Rydym wedi agor tudalen Crowdfunder i’n helpu ni i dalu am ail ffermenter a pheiriant potelu gwell.  Bydd hyn yn helpu ni i fragu mwy o gwrw a chael y cwrw ar y silffoedd yn gynt. Mae tyfu’r busnes hefyd yn mynd i’n helpu ni fod yn wyrddach, i allu cynnig cyflogaeth a hefyd ein galluogi i agor ystafell dap yn y dre yn y dyfodol.

Byddwn yn hynod ddiolchgar petai chi'n gallu helpu. Gweler y linc am fwy o wybodaeth.

 

We have survived our first year of trading! Better still we're expanding! We have secured an unit on Penrhos industrial estate so that we may a bigger space to brew. You might know, that despite covid19 and all the restrictions, we have been running out of beer on occasion, since our current kit is a small 200ltr system. Moving will allow us to install a 10-barrel brewhouse so that we can keep up with customer, online and trade demand.

How can you help?  We have funds to prepare the building: flooring, plumbing and electrics; and we will also invest in a 10-barrel brewhouse. We've started a crowdfunder page to help us buy a second fermenter and a new bottling machine. This will allow us to make ten times more beer, and the bottling machine will allow us to put the beer on the shelves quicker. Expanding will also mean being greener, being able to offer further employment and also setting up a long-awaited tap room in the town centre.

Dan and I would be most grateful if you could help. lease see link for more details.

 http://www.crowdfunder.co.uk/brewery-expansion